Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2020 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3, 5, 7(b) i (e) a 9(b) i (d) yn cael eu gwneud o ganlyniad i gyflwyno Absenoldeb a Thâl Profedigaeth Rhiant ar gyfer rheini cymwys o dan bwerau y darperir ar eu cyfer yn Neddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 14 a 17 i 22.

Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 4 yn cael ei wneud o ganlyniad i Ddeddf Partneriaethau Sifil, Priodasau a Marwolaethau (Cofrestru etc) 2019 a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer partneriaethau sifil rhwng pobl o rywiau gwahanol. Mae’r diffiniad o “cwpl” wedi ei ddiwygio er mwyn cynnwys dau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil. Gwneir yr un diwygiad mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 13.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 6 yn cael eu gwneud i’r gofyniad rhagnodedig na chaniateir cynnwys personau sy’n cael eu trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr yng nghynllun awdurdod. Mae person yn cael ei drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon. Rhaid peidio â thrin unrhyw berson fel rhywun sy’n preswylio fel arfer heb fod ganddo hawl perthnasol i breswylio. Mae rheoliad 6(a) ac (c) yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006 er mwyn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 yn eu lle, gan fod Rheoliadau 2016 yn dirymu Rheoliadau 2006. Mae rheoliad 6(b) yn darparu nad yw nifer o hawliau i breswylio a bennwyd ar gyfer gwladolion gwladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE yn hawliau perthnasol i breswylio at ddibenion pennu a yw person yn preswylio fel arfer. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 7(a), 8, 9(a) a 10 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16, 23 a 24.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


 

 

 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2020 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)         ***

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013([2]), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([3]);.

4. Yn rheoliad 4 (ystyr “cwpl”), ym mharagraff (b), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.

5. Yn rheoliad 10 (gwaith am dâl), ym mharagraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.

6. Yn rheoliad 28 (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     ym mharagraff 4—

                            (i)    ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;

                          (ii)    yn is-baragraff (d)—

(aa)        yn lle “15A(1)” rhodder “16”;

(bb)       yn lle “(4A)” rhodder “(5)”; ac

(cc)        ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;

                        (iii)    ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e) y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—

                       (i)  Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;

                      (ii)  y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno; neu

                     (iii)  erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 2019([4]) a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.”;

(b)     ym mharagraff 8, yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.

7. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;

                        (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;

                        (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;

(b)     ym mharagraff 10(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—

                (xvib)  tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC([5]);”;

(c)     ym mharagraff 12 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff 1(ja) mewnosoder—

                    (jb)  tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o’r Ddeddf honno;;

(d)     ym mharagraff 13 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff 2(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;

(e)     ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (15)—

(aa)        yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(bb)       ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(cc)        ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir yn rhinwedd adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno([6])”;

                          (ii)    yn is-baragraff (16)—

(aa)        yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(bb)       ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.

8. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” ac “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.

9. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;

                          (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;

                        (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;

(b)     ym mharagraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                            (i)    yn is-baragraff (1)(j), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;

                          (ii)    yn is-baragraff (1)(k), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(c)     ym mharagraff 15 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff 3(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;

(d)     ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—

                            (i)    yn is-baragraff (15)—

(aa)        yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(bb)       ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(cc)        ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;

                          (ii)         yn is-baragraff (16)—

(aa)        yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

(bb)       ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.

10. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20 ac yn lle “£61.70” rhodder £62.75;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder £79.20;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder £124.45;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95” a “£49.80” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;

(c)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

11. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013([7]) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 24.

12. Ym mharagraff 2(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;.

13. Ym mharagraff 4(b) (ystyr “cwpl”), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.

14. Ym mharagraff 10 (gwaith am dâl), yn is-baragraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.

15. Ym mharagraff 19 (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     yn is-baragraff (4)—

                            (i)    ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;

                          (ii)    ym mharagraff (d)—

(aa)        yn lle “15A(1)” rhodder “16”;

(bb)       yn lle “(4A)” rhodder “(5)”;

(cc)        ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;

(b)     ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(e) y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—

                       (i)  Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;

                      (ii)  y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno; neu

                     (iii)  erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 2019([8]) a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.”;

(c)     yn is-baragraff (8), yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.

16. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;

(d)     yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;

(e)     yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno.

17. Ym mharagraff 36(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—

                (xvib)  tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;.

18. Ym mharagraff 38(1) (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl paragraff (ja) mewnosoder—

                    (jb)  tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;.

19. Ym mharagraff 39(2)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.

20. Ym mharagraff 48(1) (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff (j) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;

(b)     ym mharagraff (k) ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.

21. Ym mharagraff 49(3)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.

22. Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—

(a)     yn is-baragraff (15)—

                            (i)    yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

                          (ii)    ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

                        (iii)    ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;

(b)     yn is-baragraff (16)—

                            (i)    yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;

                          (ii)    ym mharagraff (b) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”;

                        (iii)    ym mharagraff (c) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”,

23. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” a “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95 ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.

24. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20” ac yn lle “£61.70” rhodder “£62.75”;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder “£79.20”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder “£124.45”;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                            (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95 a “£49.80” yn y drefn honno;

                          (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;

                        (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;

(c)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.

 

 

 

Enw

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.

([2])           O.S. 2013/3029 (Cy. 301), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7) ac O.S. 2019/11 (Cy. 5).

([3])           1996 p. 18. Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24) ond nid yw’r ddarpariaeth mewn grym eto.

([4])           O.S. 2019/686

([5])           Ystyr “DCBNC” yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ac ym mharagraff 2 o’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Mewnosodwyd Rhan 12ZD gan Ran 2 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24) (“Deddf 2018”) ond nid yw’r darpariaethau mewn grym eto.

([6])           Mewnosodwyd adrannau 171ZZ6 i 171ZZ15 yn Rhan 12ZD gan Ran 2 o’r Atodlen i Ddeddf 2018 ond nid ydynt mewn grym eto.

([7])           O.S. 2013/3035 (Cy. 303), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7) ac O.S. 2019/11 (Cy. 5).

([8])           O.S. 2019/686.